Mae'r Aelod o'r Senedd Paul Davies wedi codi gwasanaethau deintyddol gyda'r Prif Weinidog ac wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gefnogi'r sector a sicrhau y gall ddarparu gwasanaethau hanfodol ledled Sir Benfro. Daw galwad Mr Davies yn dilyn sylwadau gan ddeintyddion lleol sydd wedi ei gwneud yn glir bod practisau'n anghyfforddus gyda'r contract deintydd newydd a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru gan ei fod yn cynnig lleihau gwerthoedd contract practis i 25% y lefelau presennol y cytunwyd arnynt.
Dywedodd Mr Davies "Rwy'n ddiolchgar i ddeintyddion lleol am ddod â'r mater brys hwn i'm sylw. Gallai'r contract deintyddol newydd beryglu ansawdd y gofal i'w cleifion a bwriedir iddo ddod i rym fis nesaf. Felly, codais y mater gyda'r Prif Weinidog fel mater o frys a'i annog i weithio gyda'r proffesiwn lleol i ddod o hyd i ateb ymarferol.”
Ychwanegodd "Mae mynediad at wasanaethau deintyddol lleol eisoes yn broblem i rai pobl yn Sir Benfro ac felly mae'n hanfodol bod popeth posibl yn cael ei wneud i ddiogelu'r gwasanaethau lleol sydd gennym a sicrhau bod cleifion yn gallu cael y driniaeth a'r gofal sydd eu hangen arnynt. Mae deintyddion yn rhybuddio y byddant yn gadael y proffesiwn oni cheir ateb a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i fyny a dod o hyd i ffordd o gefnogi'r diwydiant.”
You can read the exchange between Paul and the First Minister here - https://record.assembly.wales/Plenary/12659