Mae'r Aelod o'r Senedd Paul Davies wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad yn gynt ar gynlluniau lleihau cyflymder ledled Cymru, yn dilyn ymateb sy’n destun pryder gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sydd wedi cadarnhau bod dyraniadau cyllideb cyfalaf ar gyfer gweithrediadau’r rhwydwaith cefnffyrdd yn 2022/23 yn ei gwneud yn ofynnol bellach i bob prosiect gael ei ail-werthuso - gan gynnwys y prosiect i leihau'r terfyn cyflymder ar yr A40 yn Scleddau.
Dywedodd Mr Davies, "Rwy'n siomedig iawn o glywed bod Llywodraeth Cymru yn cefnu ar ei hymrwymiad i leihau'r terfyn cyflymder ar yr A40 yn Scleddau. O gofio'r diffyg eglurder ar y mater hwn, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn esbonio pryd y bydd prosiectau fel hyn yn digwydd nawr. Rhoddwyd sicrwydd i'r gymuned y byddai'r terfyn cyflymder yn cael ei leihau yn y flwyddyn ariannol hon, ond mae'n ymddangos bod hyn yn y fantol bellach. Rhaid i ddiogelwch ar y ffyrdd fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae'n hollbwysig ein bod cael eglurder ar y mater hwn cyn gynted â phosib."
Gallwch ddarllen y trawsgrifiad yma - https://record.assembly.wales/Plenary/12874?lang=cy-GB (o baragraff 88 ymlaen)