Mae'r Aelod o'r Senedd, Paul Davies, wedi cyfarfod â Choleg Sir Benfro i drafod ymgynghoriad ar gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed yng Nghymru. Mae Cymwysterau Cymru, rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau nad ydynt yn radd yng Nghymru, yn cynnal ymgynghoriad ar gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed i gefnogi uchelgais y Cwricwlwm i Gymru. Cyfarfu Mr Davies â Phennaeth Cynorthwyol Coleg Sir Benfro, Jackie Mathias, a'i chydweithwyr. Buont yn trafod yr ymgynghoriad a'r angen am gydweithio pellach rhwng ysgolion a cholegau i ddarparu sgiliau galwedigaethol yn Sir Benfro.
Meddai Mr Davies, "Rwy'n ddiolchgar i Jackie a'r tîm yng Ngholeg Sir Benfro am gwrdd â mi i drafod yr ymgynghoriad pwysig hwn. Mae'r dyddiad cau yn prysur agosáu ac mae'n hanfodol bod cymaint o bobl â phosibl yn cymryd rhan ac yn rhannu eu barn. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod gan bobl ifanc 14 i 16 oed fynediad at gyrsiau sgiliau galwedigaethol o ansawdd uchel a byddaf yn sicr yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyfleoedd i gael mynediad at hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn Sir Benfro. Mae hefyd yn hanfodol bod ysgolion a cholegau yn cydweithio â'i gilydd yn lleol i ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr. Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw nos Fercher 14 Mehefin am hanner nos a byddwn yn annog pawb sydd â barn ar hyn i ymweld â gwefan Cymwysterau Cymru a gwneud yn siŵr eu bod yn cyflwyno'r safbwyntiau hynny."