Mae’r Aelod o’r Senedd dros etholaeth Preseli Sir Benfro, Paul Davies, wedi ymweld â'r bwyty a'r bar newydd ffasiynol, Forbidden Florist, yn Hwlffordd. Cyfarfu Mr Davies â'r perchennog Mark Edwards a chael taith o amgylch y safle, cyn eistedd i lawr i drafod adfywio yn Hwlffordd a'r heriau sy'n wynebu'r sector lletygarwch.
Dywedodd Mr Davies, "Mae bob amser yn wych cefnogi busnes newydd sy’n agor yn Sir Benfro a doedd hyn ddim yn eithriad. Mae'r Forbidden Florist yn gaffaeliad gwych i Hwlffordd ac mae'n wych gweld buddsoddiad a swyddi yn cael eu creu yn y dref. Cefais sgwrs ddiddorol iawn gyda'r perchennog Mark Edwards am y busnes, adfywio yn yr ardal leol a rhai o'r heriau y mae'r sector lletygarwch yn eu hwynebu."
"Mae Forbidden Florist yn ofod cymdeithasol llawn croeso gyda bwydlen ardderchog a byddwn yn annog pawb i ymweld pan fyddwch chi yn yr ardal. Mae cefnogi busnesau bach fel hyn yn hanfodol i gadw canol ein trefi yn hyfyw ar gyfer y dyfodol. Llongyfarchiadau i Mark a'r tîm ar greu gofod mor ffasiynol a bywiog yn Hwlffordd ac edrychaf ymlaen at weld y busnes yn parhau i ffynnu yn y dyfodol."