Yn ddiweddar, fe wnaeth Paul Davies AS, gwrdd â Llais, y corff cenedlaethol annibynnol, sy'n cynrychioli pobl ledled Cymru gan lywio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Llais yn cynrychioli barn a phrofiadau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn cydweithio â sefydliadau'r GIG, awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol, er mwyn sicrhau bod lleisiau cleifion yn cael eu clywed a'u cynrychioli'n barhaus. Mae Llais yn disodli cynghorau iechyd cymuned hefyd yn eu rôl o gynrychioli llais cleifion yn y maes gofal iechyd.
Dywedodd Mr Davies, "Cefais gyfarfod diddorol iawn gydag un o'r Dirprwy Gyfarwyddwyr Rhanbarthol i ddysgu mwy am waith Llais a'i flaenoriaethau dros y misoedd nesaf. Y corff newydd hwn yw llais y claf ar gyfer materion iechyd a gofal cymdeithasol, ac roeddwn i’n falch o glywed ei fod wedi ehangu ei gapasiti i gefnogi ei waith gydag eiriolaeth cleifion.”
“Cawsom sgwrs lawn a gonest am rai o'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau'r GIG ar hyn o bryd, gan gynnwys gwasanaethau meddygon teulu, deintyddiaeth a rhyddhau cleifion o ysbytai i leoliadau gofal. Mae gan Llais rôl bwysig iawn wrth ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac awdurdodau lleol ar y materion hyn ac edrychaf ymlaen at gydweithio â'r tîm yn y ffordd fwyaf adeiladol posibl yn y dyfodol.”