Yn ddiweddar, mynychodd Paul Davies, Aelod o’r Senedd dros Preseli Penfro, dderbyniad i ddathlu Wythnos Ffermio Cymru. Yn y digwyddiad, lansiodd NFU Cymru ei adroddiad “Fframio’r Dyfodol ar gyfer y Genhedlaeth Nesaf” a oedd yn darparu sawl argymhelliad i Lywodraeth Cymru ar sut y gall gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr yng Nghymru yn well. Ymunodd Mr Davies â chydweithwyr yn y Senedd i ddathlu ffermio yng Nghymru a chlywed gan rai ffermwyr ifanc am eu blaenoriaethau polisi ar gyfer y dyfodol.
Meddai Mr Davies, "Roedd yn fraint enfawr mynychu derbyniad Senedd NFU Cymru ac ailadrodd fy nghefnogaeth i ffermwyr yng Nghymru. Mae enw da byd-eang Cymru am fwyd a diod hyfryd yn dyst i waith caled ffermwyr ledled y wlad ac mae angen i ni gefnogi ffermwyr Cymru a diogelu cynaliadwyedd y sector am flynyddoedd i ddod."
Ychwanegodd, "Roedd hefyd yn wych clywed gan ffermwyr ifanc am eu barn ar y sector a'i ddyfodol. Mae'r adroddiad ar Fframio'r dyfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf yn gwneud rhai argymhellion allweddol fel mynediad at gyllid, caffael cyhoeddus a'r system addysg a byddaf yn sicr o godi'r materion hyn gyda'r Gweinidog pan ddaw cyfle."