Annwyl Etholwr,
Yn anffodus, rwy’n cael sylwadau gan etholwyr yn rheolaidd yn dweud na allant gael band eang ffibr yn eu cymuned. Erbyn hyn, mae cyflymder da ar gyfer band eang yn cael ei ystyried fel y pedwerydd cyfleustod. Mae’n rhan hanfodol o fywyd modern, ac nid yw bellach yn rhywbeth moethus “braf ei gael”.
Dengys ffigurau a ryddhawyd yn gynharach eleni fod Sir Benfro’n 18fed allan o’r 22 sir yng Nghymru o safbwynt tai/busnesau sydd eisoes â mynediad at fand eang cyflym iawn. Dim ond 375 o dai/busnesau ychwanegol yn Sir Benfro a gaiff eu cysylltu â band eang ffibr yn sgil Cam 2 cynllun Cyflymu Cymru gan Lywodraeth Cymru – ergyd arall i’r cymunedau lu yn y Sir sydd â chyflymder band eang annigonol.
Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael fy newis unwaith eto i gymryd rhan mewn trafodaeth a gynhelir ddydd Mercher 8fed Mai. Y tro hwn, y pwnc yr wyf wedi’i ddewis yw darparu band eang ffibr ym Mhreseli Sir Benfro. Ar ôl imi siarad am y pwnc, bydd un o Weinidogion Llywodraeth Cymru yn ymateb. Rwy’n tybio mai Lee Waters AC fydd y gweinidog hwn, gan mai ef sydd bellach yn gyfrifol am seilwaith digidol yng Nghymru. Gellir gweld y drafodaeth yn fyw ar http://www.senedd.tv/ O ddydd Mercher 9 Mai, gallwch edrych ar y drafodaeth ar fy ngwefan i – https://www.paul-davies.org.uk/
Gallwch fod yn sicr y byddaf yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru a’u darparwr Openreach yn daer i roi diwedd ar y gagendor digidol rhwng y rhai a chanddynt fand eang cyflym, a’r rhai sydd hebddo – mae’n achosi problem enfawr i nifer o gymunedau lleol sy’n parhau i fod yn y ‘lôn araf’.
Cofion cynnes,
Paul