Unwaith eto, mae'r Aelod o'r Senedd, Paul Davies, wedi cael y pleser o fod yn feirniad yng nghystadleuaeth pobi blynyddol Cyngor Ieuenctid Aberdaugleddau. Daeth timau o bob rhan o'r sir at ei gilydd yng Nghanolfan Ieuenctid Aberdaugleddau i arddangos eu sgiliau pobi gorau, gan ei gwneud hi'n anodd iawn unwaith eto i Mr Davies a'r beirniaid eraill, Stephen Crabb AS a'r Cynghorydd Thomas Tudor, Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, i ddewis enillydd.
Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i bobl ifanc a gwneuthurwyr penderfyniadau ddymchwel rhwystrau ac ymgysylltu â'i gilydd, gan sicrhau bod pobl ifanc yn cael dweud eu dweud ar yr hyn sy'n bwysig yn eu bywydau.
Meddai Mr Davies, "Llongyfarchiadau i Gyngor Ieuenctid Aberdaugleddau am gynnal cystadleuaeth bobi ardderchog arall eleni. Mae bob amser yn bleser beirniadu'r cynigion a chlywed gan bobl ifanc am rai o'r materion sydd bwysicaf iddyn nhw."
"Roedd y cynigion i gyd yn eithriadol, ac rwy'n gobeithio bod y bobl ifanc eu hunain wedi mwynhau'r diwrnod gymaint ag y gwnes i a'r beirniaid eraill! Llongyfarchiadau mawr i'r enillydd eleni Amber Baker o Young Voices a Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Bethan Hawkridge a'i cefnogodd."