Mae'r Aelod o'r Senedd lleol, Paul Davies, wedi mynegi ei rwystredigaeth o glywed y newyddion bod dwy ddeintyddfa yn dychwelyd eu contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (GIG) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) ar 30 Tachwedd 2023.
Mae hyn yn golygu na fydd cleifion yn Stryd y Cei, Hwlffordd a Hendy-gwyn bellach yn gallu derbyn gofal deintyddol y GIG yn y deintyddfeydd hynny.
Daw'r newyddion fel dipyn o fraw, o gofio bod y Prif Weinidog ei hun wedi dweud bod dros 17,000 yn fwy o gleifion yn derbyn gofal deintyddol y GIG yn ardal y Bwrdd Iechyd a bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud buddsoddiad ychwanegol i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG.
Meddai Mr Davies, "Mae'n siomedig iawn gweld mwy o ddeintyddfeydd yn trosglwyddo eu contractau GIG i'r Bwrdd Iechyd lleol ac rwy'n gwybod y bydd hyn yn ergyd i gleifion. Mae mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG wedi bod yn broblem yn Sir Benfro ers amser maith ac eto, wrth gael ei herio, ni fydd y Prif Weinidog yn cydnabod difrifoldeb y broblem ac yn hytrach mae o’r farn o hyd bod miloedd yn rhagor o apwyntiadau deintyddol y GIG ar gael."
Ychwanegodd, "Rwy'n parhau i dderbyn cryn dipyn o ohebiaeth gan bobl ledled Sir Benfro ynghylch gwasanaethau deintyddol. Mae llawer yn byw mewn poen ac anghysur ac nid yw hyn yn ddigon da. Mae angen i Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gydnabod bod hwn yn argyfwng ac ymdrechu ddwywaith caletach i ddenu deintyddion sy'n cynnig gofal GIG i'r ardal."