Yn ddiweddar, ymwelodd Aelod o’r Senedd dros Breseli Sir Benfro, Paul Davies, â Derw Glass, gwneuthurwr gwydr a chynhyrchydd sydd wedi'i leoli ger Blaenffos, Gogledd Sir Benfro. Cafodd Mr Davies daith o amgylch safle'r busnes a siaradodd gyda'r perchnogion Noela a Julian Palmer am eu cynnyrch a'u gwasanaethau. Mae Derw Glass yn cynnig popeth o gefnfyrddau cegin i unedau a ffenestri gwydr dwbl a gwydr triphlyg. Yn ystod yr ymweliad, dysgodd Mr Davies hefyd am y dechnoleg newydd ar y safle sy'n ceisio helpu'r busnes i fod yn fwy effeithlon yn y dyfodol.
Meddai Mr Davies, "Busnesau fel Derw Glass yw asgwrn cefn economi Sir Benfro ac roedd hi’n bleser gwirioneddol ymweld â'r busnes a dysgu mwy am yr hyn y mae'n ei gynhyrchu. Sefydlwyd y busnes teuluol ym 1991 a dyma'r prif wneuthurwr uned a phrosesydd gwydr yng ngorllewin Cymru. Roedd yn wych gweld y cwmni'n buddsoddi mewn peiriannau ynni effeithlon ac yn edrych ar ffyrdd y gall fod yn fwy effeithlon yn y dyfodol, ac rwy'n canmol Noela a Julian Palmer am eu hymdrechion. Roedd yn ymweliad diddorol dros ben a gwnaeth ansawdd y cynhyrchion a gynigiwyd argraff fawr arnaf. Felly, os ydych chi'n chwilio am gynnyrch gwydr yn y dyfodol, ewch i wefan y busnes i weld a yw'n rhywbeth y gall Derw Glass ei wneud i chi a helpu i gefnogi'r busnes gwych hwn yn Sir Benfro."