Mae'r Aelod o'r Senedd Paul Davies wedi galw am ymyrraeth Llywodraeth Cymru, wrth i drigolion Sir Benfro barhau i ddioddef yn sgil arogleuon o safle tirlenwi Withyhedge yn Hwlffordd.
Fe wnaeth Mr Davies godi’r mater yn Siambr y Senedd gan ofyn i Lywodraeth Cymru gymryd camau i helpu’r rhai sydd wedi'u heffeithio, a sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflawni ei ddyletswyddau rheoleiddio a gorfodi'n effeithiol.
Yn dilyn y cais dywedodd Mr Davies, "Mae trigolion yn parhau i ddioddef o ganlyniad i'r drewdod ofnadwy ar safle tirlenwi Withyhedge ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ymyrryd i gefnogi'r rhai sy’n cael eu heffeithio.”
“Mae’n bryder iechyd cyhoeddus a phrin yw'r camau sydd wedi'u cymryd i ddatrys y mater hwn - ac mae angen i hynny newid.”
“Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am Gyfoeth Naturiol Cymru a dyna pam y gofynnais i Lywodraeth Cymru ymyrryd a helpu i gefnogi trigolion sydd wedi'u taro gan yr arogleuon o'r safle. Mae'n hanfodol nawr bod camau yn cael eu cymryd - a'u cymryd cyn gynted â phosib.”