Mae’r Aelod o’r Senedd, Paul Davies wedi ymweld â Carreg Construction, busnes lleol yn Hwlffordd sy’n arbenigo mewn gweithio gydag adeiladau hanesyddol a rhestredig. Cafodd Mr Davies wahoddiad gan y Ffederasiwn Busnesau Bach i ymweld â'r busnes a thrafod sut y gall y Senedd gefnogi busnesau bach fel Carreg Construction yn well ar hyd a lled Cymru.
Dywedodd Mr Davies, “Roedd yn bleser ymweld â Carreg Construction a dysgu am eu busnes. Gwnaeth eu portffolio o waith argraff fawr arnaf a does dim syndod bod y busnes wedi ennill sawl gwobr dros y blynyddoedd.”
“Cawsom drafodaeth dda iawn am sut y gellir cynorthwyo busnesau fel Carreg Construction yn well. Wrth i gostau barhau i gynyddu, mae’n hanfodol bod llywodraethau ar bob lefel yn ymgysylltu â busnesau, yn gwrando ar eu pryderon ac yn defnyddio’r pwerau sydd ganddynt i helpu busnesau a chreu’r amodau ar gyfer twf. Mae Sir Benfro’n gartref i gymaint o fusnesau gwych ac mae’n hanfodol ein bod yn eu cefnogi fel eu bod yn parhau i ffynnu am flynyddoedd i ddod.”