Mae’r Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies, wedi ymateb i’r newyddion bod meddygfa Tyddewi yng ngogledd Sir Benfro wedi penderfynu dirwyn ei Gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol i ben. Deellir y bydd gofal yn parhau tan ddiwedd mis Hydref 2024 i gleifion cofrestredig, a’r cyngor yw i gleifion barhau i gofrestru gyda’r practis tra bod cynlluniau tymor hwy yn cael eu datblygu. Bydd cleifion yn cael eu gwahodd i rannu barn ynghylch sut i barhau i ddarparu’r gwasanaethau hyn ar ôl diwedd mis Hydref.
Dywedodd Mr Davies, “Mae hwn yn gyhoeddiad pryderus iawn a bydd cleifion yn yr ardal leol, a hynny’n ddigon dealladwy, yn bryderus am beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer y dyfodol.”
“Mae’n hanfodol bod modd dal ati i ddarparu gwasanaethau meddyg teulu yn yr ardal yn y dyfodol ac felly mae’n rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fod yn agored gyda chleifion y practis am eu cynlluniau a mynd i’r afael â phryderon y gymuned. Rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod cleifion yn gallu cael gafael ar wasanaethau yn y tymor hir.”
“Byddaf wrth gwrs yn codi hyn gyda Llywodraeth Cymru ac yn annog y Gweinidog Iechyd i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi’r Bwrdd Iechyd, ac i helpu i sicrhau bod cleifion yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau hanfodol hyn.”