Mae Paul Davies, yr Aelod o’r Senedd dros Preseli Penfro, wedi mynegi ei ddicter a'i rwystredigaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch y ffordd maen nhw wedi ymdrin â safle tirlenwi Withyhedge yn Hwlffordd. Ysgrifennodd Mr Davies at Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn am gadarnhad bod Resources Management UK Ltd (RML), y gweithredwr ar safle tirlenwi Withyhedge, wedi cydymffurfio â'r Hysbysiad Gorfodi Rheoliad 36, erbyn ei ddyddiad cau ar 14 Mai. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymateb i ddweud na all gadarnhau a yw'r gweithredwr wedi cydymffurfio, gan ei fod yn disgwyl am waith papur gan y gweithredwr. Bydd angen ei adolygu wedi hynny a does dim amser penodedig ar gyfer cyflwyno'r gwaith papur hwnnw.
Meddai Mr Davies, "Rwy'n synnu, ac yn hynod siomedig bod y mater hwn yn parhau i lusgo ymlaen. Mae'r gymuned leol wedi dioddef ers misoedd ac mae'n ymddangos fel nad oes pen draw i’r twnnel. Dydw i ddim yn credu ei bod yn iawn nac yn dderbyniol nad yw'r gweithredwr wedi cyflwyno'r gwaith papur angenrheidiol eisoes i gydymffurfio â'r Hysbysiad Gorfodi diweddaraf a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru."
Ychwanegodd, "Pa mor hir mae disgwyl i'r gymuned ddioddef hyn? Mae preswylwyr yn dioddef problemau iechyd o ganlyniad i'r drewdod a'r allyriadau o'r safle a dylid datrys hyn fel mater o frys. O ganlyniad, rwyf wedi ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru eto yn mynegi fy mhryderon. Yn y cyfamser, byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd, dal y gweithredwr i gyfrif am ei weithredoedd a lansio ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r sefyllfa annerbyniol hon."