Mae’r Aelod o’r Senedd Paul Davies wedi dangos ei gefnogaeth i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan ganser y fron unwaith eto eleni drwy wisgo mewn pinc ac annog ei etholwyr i gymryd rhan yn y diwrnod ‘Gwisgo Pinc’ ddydd Gwener 18 Hydref. Credir bod tua 2,700 o bobl yn cael diagnosis o ganser y fron bob blwyddyn yng Nghymru, ac eto dim ond 7.3% o gleifion a ddechreuodd eu triniaeth go iawn gyntaf o fewn 62 diwrnod i gael diagnosis o ganser y fron yng Nghymru. Mae Diwrnod Gwisgo Pinc yn galw ar gefnogwyr ledled y wlad i ychwanegu fflach o binc at eu dillad am y diwrnod a chodi arian at waith achubol Breast Cancer Now.
Dywedodd Mr Davies, “Dwi wedi bod yn gefnogwr brwd i ymgyrch Gwisgo Pinc erioed a byddaf yn parhau i wneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi Breast Cancer Now a chreu dyfodol gwell i bawb sy’n cael eu heffeithio gan ganser y fron. Po gyflymaf y gwneir diagnosis o ganser y fron, po gyntaf y gall pobl ddechrau triniaeth a chael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.”
Ychwanegodd, “Mae diwrnod Gwisgo Pinc Breast Cancer Now yn un o’r digwyddiadau codi arian mwyaf yn y DU ac rwy’n gobeithio y bydd pawb yn Sir Benfro yn ymuno â mi drwy wisgo pinc ddydd Gwener 18 Hydref. Mae'n ffordd wych a hwyliog o ddangos eich cefnogaeth i Breast Cancer Now. Mae dros £41miliwn wedi’i godi eisoes dros y blynyddoedd ac mae pob ceiniog yn mynd tuag at waith pwysig Breast Cancer Now. Felly, tyrchwch drwy’ch cwpwrdd dillad, chwiliwch am rywbeth pinc a dangoswch eich cefnogaeth ddydd Gwener yma!”