Mae Paul Davies, yr Aelod o'r Senedd dros Preseli Sir Benfro, wedi cyflwyno dadl yn y Senedd ar gynigion Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a'i rhaglen Cyswllt Ffermio. Mr Davies yw Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd, a gynhaliodd ymchwiliadau i'r materion hyn yn gynharach eleni. Cynhelir y ddadl ar 23 Hydref a bydd yn ystyried yr adroddiadau a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor, yn ogystal ag adroddiad pellach ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.
Dywedodd Mr Davies, "Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ymchwiliadau Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Cyswllt Ffermio. Roedd y dystiolaeth a dderbyniwyd yn eithriadol o ddefnyddiol wrth graffu ar Lywodraeth Cymru ar y materion pwysig hyn.”
“Y gwir amdani yw bod angen newidiadau sylweddol er mwyn sicrhau bod ffermwyr ledled Cymru yn gallu deall yn well yr hyn sy'n ddisgwyliedig ganddyn nhw. Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos sut maen nhw'n addasu eu cynlluniau i ddiwallu anghenion ein diwydiant amaeth a'n hamgylchedd, ac edrychaf ymlaen at glywed beth sydd gan y Dirprwy Brif Weinidog i'w ddweud.”
“Mae'n gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y Cynllun Ffermio Cynaliadwy mor hygyrch â phosibl i bob ffermwr, waeth beth yw'r math o fferm sydd ganddyn nhw a'i deiliadaeth, a rhaid i'r cynllun sicrhau cydbwysedd gwell rhwng amddiffyn dyfodol ffermio a chynhyrchu bwyd yn ogystal â mynd i'r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur.”