Cafodd Paul Davies AC flas ar daith o amgylch Distyllfa Wisgi Penderyn, gan ddysgu am wreiddiau syml y cwmni a’i ddyfeisgarwch unigryw.
Yn gynnyrch angof a ddisgrifiwyd fel breuddwyd gwrach, bu wisgi Cymreig ar goll mewn amser ers dros ganrif, yn wahanol iawn i’w gefnder Celtaidd o’r Alban.
Hynny yw, tan i griw o ffrindiau yng nghanol y Bannau fynd ati i sefydlu Wisgi Penderyn a aeth ymlaen i gael ei werthu ym mhedwar ban byd ac ennill llu o wobrau.
Roedd Mr Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn falch o’r cyfle i weld sut mae’r busnes ffyniannus hwn yn cynrychioli ein gwlad ar lwyfan byd.
Mae Distyllfa Penderyn yn allforio i wledydd tramor, gan gynnwys Ffrainc, UDA, Taiwan, Siapan a Seland Newydd. Yn nes adref, mae’r poteli enwog ar werth mewn archfarchnadoedd, siopau arbenigol a hyd yn oed yn rhai o siopau mwyaf crand Llundain gan gynnwys Harrods.
Yn ogystal â’r wisgi brag sengl poblogaidd, mae’r ddistyllfa’n cynhyrchu Brecon Gin enwog, sy’n arbennig o boblogaidd yn Sbaen, a chynhyrchion eraill fel Merlyn Cream Liqueur a Five Vodka.
Mae gan ddistyllfa Penderyn, ychydig i’r gogledd o Aberdâr, ei ffynnon naturiol ei hun, ac mae’r safle’n cynnwys amgueddfa a siop roddion. Mae teithiau’r safle, gan gynnwys y llawr cynhyrchu, yn atyniad hynod boblogaidd a denodd 42,000 o ymwelwyr a phobl leol y llynedd.
Cafodd Mr Davies gyfle i gyfarfod Stephen Davies, Prif Weithredwr Penderyn, er mwyn dysgu popeth am y broses ddistyllu a chlywed rhagor am y cynlluniau a gyhoeddwyd yn gynharach eleni i ehangu profiad Penderyn ar draws y Gogledd a’r Gorllewin.
Mae’r cwmni’n bwriadu agor canolfannau newydd yn Llandudno y flwyddyn nesaf, ac yna yn Abertawe yn 2022.
Wrth drafod ei daith, meddai Mr Davies:
“Hoffwn ddiolch i Stephen a chriw Penderyn am daith mor ddiddorol. Roedd hi’n wych gweld eu dulliau distyllu unigryw â’m llygaid fy hunain, a dysgu am hanes wisgi Cymru.
“Mae Penderyn yn llysgennad hynod boblogaidd dros gynnyrch Cymreig, ac mae’r syniad o ddefnyddio eu cynnyrch eiconau Cymreig i rannu hanes a hunaniaeth y genedl i weddill y byd yn wych.
“Dymunaf bob llwyddiant i’r cwmni wrth agor safleoedd newydd, ac edrychaf ymlaen at ymweld â Llandudno neu Abertawe ar y cyfle cyntaf posib.”
DIWEDD
Nodyn i Olygyddion: Ar y chwith ym mhob llun mae Paul Davies AC, ac ar y dde, Stephen Davies, Prif Weithredwr Distyllfa Penderyn.