Bu’r Aelod Cynulliad lleol, Paul Davies, yn ymweld â Fferyllfa Gymunedol yng Nghrymych yn ddiweddar i gael y newyddion diweddaraf ar y nifer cynyddol o wasanaethau sydd ar gael yno.
Wrth sôn am ei ymweliad â Fferyllfa EP Parry yng Nghrymych, meddai Paul Davies “Roedd hi’n dda cyfarfod â Phil Parry a’i dîm unwaith eto. Mae gen i brofiad uniongyrchol o waith rhagorol y fferyllfa hon. Mae fferyllfeydd nawr yn cynnig mwy o wasanaethau gan ddarparu mwy o ‘siop un stop’, a lleihau’r pwysau ar adnoddau meddygon teulu trwy wneud hynny gobeithio.”
“Mae fferyllfeydd cymunedol yn bwysig iawn mewn cymunedau mwy gwledig fel Crymych gan y dylent alluogi pobl i gael gafael ar lawer o wasanaethau yn agosach at gartref.”
“Roedd hi hefyd yn ddiddorol clywed am yr heriau y mae Mr Parry’n eu hwynebu wrth fod yn fferyllydd cymunedol a byddaf yn siŵr o ystyried y rhain. Mae’n bwysig iawn bod fferyllfeydd cymunedol yn gallu cyflawni eu gwaith hanfodol gyda’r cymorth priodol a byddaf yn pwysleisio hyn ar bob cyfle posibl.”
DIWEDD
Llun : Y Fferyllydd Cymunedol yn cymryd pwysedd gwaed Paul Davies AC