Aeth yr Aelod Cynulliad Lleol Paul Davies i seremoni wobrwyo arbennig yn ddiweddar, er budd ci chwilio arbenigol o’r enw Scamp. Mae Scamp, llamgi (springer spaniel) wyth mlwydd oed, wedi gweithio fel ci canfod baco ac arian ers dros chwe blynedd - ac wedi helpu’r heddlu, yr adran Safonau Masnach a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i adfer gwerth dros £8 miliwn o dybaco anghyfreithlon a thros £4 miliwn mewn arian parod, sy’n gysylltiedig ag achosion o droseddu difrifol a chyfundrefnol. Fel cydnabyddiaeth o’i waith aruthrol, cafodd Glod Arbennig am Ragoriaeth mewn Gorfodaeth Gwrth-Arian Ffug.
Meddai Mr Davies, “Braint oedd cael mynychu seremoni wobrwyo mor arbennig, i ddathlu gwaith arbennig Stamp gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith ar hyd a lled y wlad. Mae Scamp yn gwneud gwaith pwysig wrth fynd i’r afael â throseddu difrifol a chyfundrefnol, ac rwy’n deall ei fod eisoes wedi llwyddo i atafaelu gwerth £8 miliwn o bunnoedd o dybaco anghyfreithlon a thros £4 miliwn mewn arian parod – tipyn o gamp.”
Ychwanegodd, “Mae hyn hefyd yn glod i griw B.W.Y. Canine sy’n gwneud gwaith gwych yn darparu a hyfforddi cŵn dalfa. Diolch i’w hymdrechion a’u gwaith caled, mae Scamp yn gallu gweithio i’r safon uchaf a helpu i gadw ein strydoedd mor ddiogel â phosib.”