Mae’r Aelod Cynulliad lleol Paul Davies yn annog pobl ar hyd a lled y sir i gyflwyno enwebiadau ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2019. Mae’r broses enwebu ar agor tan ddydd Sul 13 Hydref, ac mae’r categorïau’n cynnwys unrhyw beth o Hyfforddwr y Flwyddyn, Gorchest Tîm y Flwyddyn i Wobr Chwaraeon i’r Anabl. Deallwn hefyd bod modd cyflwyno enwebiadau’r llynedd eto eleni.
Meddai Mr Davies, “Mae Sir Benfro yn llawn doniau chwaraeon cynhenid, ac mae Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro yn ffordd wych o ddathlu hynny a chydnabod pwysigrwydd byd y campau ar lawr gwlad. Yn ogystal â gwobrwyo athletwyr Sir Benfro, mae’n gyfle i ddiolch i’r llu o wirfoddolwyr, hyfforddwyr a threfnwyr ledled y sir am eu gwaith caled a’u hymroddiad. Mae’r broses enwebu’n cau mewn ychydig wythnosau, felly mae digon o amser i gyflwyno’ch enwau. Felly da chi, bachwch ar y cyfle i gyflwyno enwebiad fel bod y trefnwyr yn cael blas go iawn ar yr holl ddoniau chwaraeon sydd gennym yma’n Sir Benfro.”