Mae Paul Davies, yr Aelod Cynulliad Lleol, yn galw ar Lywodraeth Cymru i drosglwyddo’r cyllid ychwanegol a roddwyd gan Lywodraeth y DU i ysgolion lleol yn Sir Benfro. Byddai’r arian canlyniadol gan Lywodraeth y DU yn hwb gwerth £48.9 miliwn i gyllideb addysg Sir Benfro dros y tair blynedd nesaf.
Yn ôl Mr Davies, “Gwn fod angen dybryd am adnoddau ychwanegol ar system addysg Cymru ac felly mae’n gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n trosglwyddo’r cyllid ychwanegol hwn i ysgolion ledled y wlad. O ganlyniad i becyn gwerth £1.24 biliwn gan Lywodraeth y DU, byddai Sir Benfro’n derbyn tua £48.9 miliwn dros y tair blynedd nesaf, a fyddai’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i ysgolion lleol. Dyrannwyd yr arian ar gyfer y system addysg ac mae’n deg bod Llywodraeth Cymru’n gwneud yr hyn sy’n iawn a throsglwyddo hwnnw. Yn gynharach eleni, roedd ffigurau categoreiddio ysgolion Llywodraeth Cymru yn dangos mai Sir Benfro sydd â’r ganran uchaf o ysgolion cynradd sydd angen y cymorth mwyaf yng Nghymru ac felly mae’n hanfodol bod y cyllid hwn yn cael ei drosglwyddo i’r ysgolion hynny cyn gynted â phosibl.”