Wrth ymateb i arolwg sirol ar ddarpariaeth band eang yn Sir Benfro, dywedodd yr Aelod Cynulliad lleol Paul Davies nad yw canfyddiadau’r arolwg yn ei synnu. Canfu arolwg a gynhaliwyd gan Sir Benfro Ddigidol yn y Sioe Sir yn ddiweddar bod 75% o’r rhai a holwyd yn anhapus gyda chyflymder eu band eang ar draws Sir Benfro.
Meddai Mr Davies, “Mae darpariaeth band eang wedi bod yn broblem ers amser maith i bobl sy’n byw yn Sir Benfro felly dyw canlyniadau’r arolwg ddim yn fy synnu. Mae etholwyr yn cysylltu â mi bron iawn bob dydd am ddarpariaeth ansafonol a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar eu bywydau. Mae mynediad i wasanaeth band eang boddhaol nawr yn elfen hanfodol o fywyd pob dydd – mae gwasanaethau ar-lein yn disodli banciau’r stryd fawr ac mae llawer o bobl yn dibynnu ar y rhyngrwyd at ddibenion busnes neu i ddysgu. Dangosodd yr arolwg bod 76% o ymatebwyr yn defnyddio’r rhyngrwyd i astudio a 63% yn defnyddio’r rhyngrwyd i weithio gartref ac mae’r ffigurau hynny’n siŵr o godi yn y blynyddoedd i ddod. Felly, mae’n hanfodol bod Llywodraethau ar bob lefel yn cydweithio i fynd i’r afael â’r mannau gwan fel na fydd cymunedau ledled y Sir yn cael eu gadael ar ôl.”