Mae’r Aelod Cynulliad lleol Paul Davies wedi rhybuddio y bydd cau Debenhams Hwlffordd yn cael effaith niweidiol ar economi’r ardal. Wrth ymateb i adroddiadau y bydd y siop yn cau fis Tachwedd, dywedodd Mr Davies fod y penderfyniad yn hynod siomedig ac y bydd colli swyddi’n ergyd i deuluoedd sy’n cael eu heffeithio.
Meddai Mr Davies, “Rwy’n drist i glywed y bydd Debenhams yn cau siop Hwlffordd ym mis Tachwedd gan fod y cwmni’n gyflogwr da yn yr ardal. Roedd yn darparu swyddi lleol ac o fudd i’r gymuned gyfan. Byddaf, wrth gwrs, yn gwneud sylwadau i Debenhams er mwyn cael rhywfaint o fanylion am yr hyn arweiniodd at y penderfyniad i gau, yn ogystal â holi pa gymorth fydd ar gael i’r gweithwyr hynny a gaiff eu heffeithio gan y cyhoeddiad hwn. Wrth symud ymlaen, mae’n hollbwysig y bydd cymaint ag sy’n bosib o gefnogaeth ar gael i’r rhai sydd wedi’u taro gan y newydd hwn.