Mae’r Aelod Cynulliad lleol Paul Davies wedi cymeradwyo adroddiad sy’n galw am fwy o weithio trawsbleidiol i fynd i’r afael â gwendidau yn seilwaith Cymru. Mae ymchwil newydd gan FSB Cymru yn dangos bod 63% o fusnesau yng Nghymru wedi eu heffeithio gan broblem yn ymwneud â seilwaith yn cynnwys ffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith digidol a chyfleustodau. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlygu gwahaniaethau daearyddol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i sicrhau bod pob busnes yng Nghymru’n elwa ar fuddsoddiad mewn seilwaith.
Meddai Mr Davies, “Rwy’n croesawu’r casgliadau sydd yn adroddiad yr FSB, ‘A Ydym Yno Eto?’ Mae busnesau ledled Sir Benfro wedi bod yn galw ers amser am fwy o gefnogaeth i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â seilwaith gan fod y materion hyn yn creu rhwystrau gwirioneddol i dwf busnes yn yr ardal - ac mae mor braf gweld y safbwyntiau hynny’n cael eu hamlygu yn yr adroddiad. Mae busnesau yn Sir Benfro hefyd yn wynebu problemau wrth geisio sicrhau gwasanaethau band eang dibynadwy a gyda diffyg signal ffonau symudol ar draws y sir, sy’n golygu eu bod yn ei chael yn anodd cystadlu â busnesau yn rhannau eraill o’r wlad. Felly rwy’n llwyr gefnogi’r syniad o well gweithio trawsbleidiol i fynd i’r afael â phroblemau seilwaith a gobeithiaf y bydd llywodraethau ar bob lefel yn dod ynghyd i geisio datrys y problemau sy’n creu rhwystrau i fusnesau o Gymru.”