Mae Aelod Cynulliad Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Angela Burns, arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad, Paul Davies a Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, Dafydd Elis-Thomas AC wedi ymweld â Pharc Gwyliau Hampton Court, sy’n eiddo i Peter Russ a’i wraig Sharon.
Mr a Mrs Russ yw perchnogion y parc ar gyrion Templeton, ac maent wrthi’n gosod uned cawod cwbl hygyrch i ategu’r chalet pren â’r holl gyfarpar gofynnol sydd eisoes ar y safle.
Mae’r uned a’r chalet wedi’u cynllunio ar gyfer pobl ag anableddau difrifol, ac maent yn cynnwys teclyn codi ac ystafell wlyb sy’n galluogi defnyddwyr cadeiriau olwyn a’u teuluoedd i fwynhau harddwch cefn gwlad Sir Benfro.
Yn ystod yr ymweliad, bu Mr Russ a’r Dirprwy Weinidog yn trafod pwysigrwydd creu strategaeth dwristiaeth i Gymru sy’n ystyried anghenion ymwelwyr â sbectrwm eang o anableddau, yn amrywio o rai cymedrol i ddifrifol.
Meddai Mr Russ ar ôl yr ymweliad: “Roeddwn wrth fy modd yn croesawu’r Dirprwy Weinidog i’n safle. Fel dyn busnes lleol a thad i fab sy’n defnyddio cadair olwyn, rwy’n teimlo nad oes digon o ddarpariaeth yma yn Sir Benfro ar gyfer ymwelwyr anabl a’u teuluoedd. Mae’r uned cawod a’r chalet wedi’u hadeiladu i’r safonau uchaf posibl, gan ddefnyddio cyfarpar o sawl man gwahanol i sicrhau eu bod yn ymarferol. Roedd yn gyfle da i’r Dirprwy Weinidog weld y gwaith sydd wedi’i wneud yma a’r cyfleusterau sydd gennym. Roedd yn awyddus i ddysgu am ein hanes a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol, ac mae wedi gofyn i mi ymateb i’r ymgynghoriad ar y strategaeth dwristiaeth.
Meddai Angela Burns AC: “Rwyf yn adnabod Pete a Sharon ers cael fy ethol am y tro cyntaf yn 2007, ac rwyf wedi gweld y prosiect yn datblygu oherwydd angerdd, ymroddiad a dyfalbarhad y teulu. Mae sicrhau bod llety a chyfleusterau yn hygyrch i bawb yn creu cyfle busnes da, ac mae angen i Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru ddeall bod anableddau yn cwmpasu sbectrwm eang a bod yn rhaid i reolau cynllunio ddarparu ar gyfer pobl ag anableddau difrifol a chymhleth.”
Meddai Paul Davies AC: “Mae’r cyfleusterau sydd wedi’u datblygu gan Pete a Sharon yma yn rhagorol. Maent yn ategu ac yn ychwanegu at ein cynnig twristiaeth yma yn Sir Benfro, gan helpu i sicrhau bod ein sir yn gwbl hygyrch i bob ymwelydd.”