Mae Paul Davies, AC Preseli Penfro, wedi ychwanegu mymryn o binc at ei wisg arferol i gefnogi ymgyrch codi arian gwisgo pinc Breast Cancer Now, a gynhelir ddydd Gwener 18 Hydref. Ers ei lansio yn 2002, mae’r ymgyrch gwisgo pinc wedi codi dros £33 miliwn. Mae Mr Davies yn galw ar ei etholwyr i ymuno ag ef, trwy gofrestru i wisgo pinc, a helpu i ariannu ymchwil i ganser y fron i arbed bywydau ac ariannu cymorth sy’n newid bywydau’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan yr afiechyd.
Meddai Mr Davies: “Bob blwyddyn yng Nghymru, mae tua 2,877 o fenywod yn cael diagnosis o ganser y fron, a thros 577 yn marw o’r afiechyd, a dyna pam rwy’n annog trigolion Sir Benfro i gymryd rhan yn niwrnod gwisgo pinc Breast Cancer Now ddydd Gwener 18 Hydref. Mae'r arian sy’n cael ei godi gan y digwyddiad rhyfeddol hwn yn cael effaith enfawr, gan ganiatáu i Breast Cancer Now ariannu ymchwil a chefnogaeth hanfodol i'r rhai sy'n byw gyda diagnosis. Gobeithio y bydd pawb yn gwisgo pinc ym mis Hydref ac yn cefnogi’r achos hynod bwysig hwn.”
Meddai’r Farwnes Delyth Morgan, Prif Weithredwr Breast Cancer Care a Breast Cancer Now:: “Mae canser y fron yn parhau i effeithio ar gymaint ohonom ni, ac erbyn 2050, ein nod ni fel elusen yw y bydd pawb sy’n datblygu canser y fron yn byw, ac yn derbyn cefnogaeth i fyw yn dda. Mae’r arian a godir gan yr ymgyrch gwisgo pinc yn rhan dyngedfennol o hyn, ac yn ein helpu i ariannu gwaith ymchwil hanfodol i ganser y fron a chefnogaeth i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan yr afiechyd.”
“Trwy wisgo pinc, gobeithiwn y bydd Paul yn annog mwy o bobl i wneud yr un peth ar 18 Hydref a’n helpu i ariannu ymchwil a chefnogaeth hanfodol i ganser y fron.”
Gall unrhyw un gymryd rhan yn yr ymgyrch gwisgo pinc. Bydd rhai pobl yn dewis cynnal arwerthiant cacennau, eraill yn dewis trefnu raffl a rhai yn trefnu diwrnod gwisg ffansi pinc yn eu hysgol neu weithle. Sut bynnag maen nhw’n cefnogi’r ymgyrch gwisgo pinc, bydd yr holl arian a godir yn helpu i ariannu ymchwil a chefnogaeth hanfodol ar gyfer canser y fron. Ym mis Ebrill 2019, unodd Breast Cancer Care a Breast Cancer Now i greu elusen canser y fron gynhwysfawr gyntaf y DU, gan uno o amgylch yr uchelgais gyffredin sef, erbyn 2050, bydd pawb sy'n datblygu canser y fron yn byw, ac yn cael eu cefnogi i fyw'n dda. Bydd pob rhodd i’r ymgyrch gwisgo pinc yn helpu tuag at y nod hwn.
Gwisgwch binc ar 18 Hydref a chodwch arian ar gyfer ymchwil a chefnogaeth canser y fron. Ewch i www.wearitpink.org i gofrestru a hawlio’ch pecyn codi arian rhad ac am ddim.