Yn ddiweddar, mynychodd Paul Davies, Aelod Cynulliad Preseli Sir Benfro Ddiwrnod Agored Blynyddol yr elusen leol HOPE yn Neyland. Yno cyfarfu ag ymddiriedolwyr a staff sy’n cefnogi pobl â sglerosis ymledol ac anhwylderau eraill yn Sir Benfro. Mae’r ganolfan yn cynnig therapi ocsigen, sy’n helpu cleifion nid yn unig â sglerosis ymledol ond y rhai sy’n byw gyda chyflyrau fel ME/ Syndrom Lludded Cronig, Polymyalgia, clefyd Parkinson a hyd yn oed Awtistiaeth.
Meddai Mr Davies, “Mae wastad yn bleser mynychu Diwrnod Agored HOPE a manteisio ar y cyfle i siarad â Ken Brombley y Cadeirydd ynglŷn â sut mae’r ganolfan yn cefnogi cleifion gyda chyflyrau niwrolegol amrywiol. Mae’n eithaf amlwg bod staff HOPE yn gwneud gwaith rhagorol, nid yn unig drwy ddarparu cymorth i’r rhai â chyflyrau cymhleth ond hefyd drwy ddarparu ffynhonnell gysur i deuluoedd a gofalwyr. Felly, hoffwn ddiolch i bawb yn y Ganolfan sy’n gwneud cymaint i helpu cleifion lleol i fyw gyda chyflyrau difrifol ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Ganolfan, lle mae hynny’n bosib, i’w gweld yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol.”