Mae newyddion y bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn derbyn £850,006 yn ychwanegol o gyllid Cyfalaf, gan gynllun Tirwedd Dynodedig Llywodraeth Cymru, wedi cael ei groesawu gan Paul Davies, yr Aelod Cynulliad. Mae’r cyllid yn rhan o becyn cymorth i helpu Parciau Cenedlaethol Cymru ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol i gyflawni amrywiaeth o fentrau fel datgarboneiddio a mesurau gwyrddu, gwelliannau i isadeiledd twristiaeth, gwella bioamrywiaeth a rhagor o gymorth ar gyfer mynediad a hamddena.
Yn ôl Mr Davies, “Bydd unrhyw gyllid i helpu i gefnogi Parciau Cenedlaethol Cymru yn sicr yn cael ei groesawu ac rydw i’n falch bod Sir Benfro’n derbyn rhywfaint o’r cyllid hwnnw. Mae ein Parciau Cenedlaethol nid yn unig yn croesawu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn, ond maen nhw’n hyrwyddo a diogelu ein diwylliant, yn helpu i feithrin cymunedau mwy cydlynol, ac mae ganddyn nhw ran sylweddol yn y broses o greu Cymru sy’n iachach ac yn fwy cydnerth – a dyw Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddim yn eithriad. Rydw i’n hyderus y bydd Awdurdod y Parc yn defnyddio’r arian hwn yn ddoeth ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am gynlluniau’r Parc Cenedlaethol yn y dyfodol wrth iddyn nhw ddatblygu.”