Cafodd Aelod Cynulliad Preseli Penfro gyfarfod yn ddiweddar â chynrychiolydd SSCE Cymru (Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion) i drafod sut i gyflwyno’r cymorth gorau posib i blant o deuluoedd y lluoedd arfog gydol y system ysgolion. Un o brosiectau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yw SSCE Cymru, a gafodd ei ariannu’n wreiddiol gan Gronfa Cymorth Addysg y Weinyddiaeth Amddiffyn ac yna Llywodraeth Cymru o 2019. Mae’r prosiect yn cynnig adnoddau i athrawon ac yn cynnal arolygon ac astudiaethau achos.
Meddai Mr Davies, “Roedd hi’n bleser cwrdd â Millie o SSCE Cymru gyda fy nghydweithiwr Darren Millar AC, er mwyn edrych ar ffyrdd o roi cymorth gwell i blant y lluoedd arfog. Gall fod yn ofynnol i staff y lluoedd arfog deithio i leoliadau gwahanol gydol eu gyrfaoedd, ac mae hynny’n gallu bod yn heriol i’w plant weithiau. Felly, mae’n hanfodol bod cymorth ar gael i ysgolion a theuluoedd gydol y broses. Mae Sir Benfro, wrth gwrs, yn gartref i farics Cawdor ac rwy’n falch iawn o’n cymuned y lluoedd arfog yn lleol. Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i weithio gyda phrosiectau a rhanddeiliaid y lluoedd arfog er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gwneud popeth posib i sicrhau bod y lefel gywir o gymorth a chefnogaeth ar gael i blant milwyr yn yr ysgol.”