Mae’r Aelod Cynulliad lleol Paul Davies wedi ymuno â ffermwyr lleol a chynrychiolwyr ffermio am frecwast i ddathlu Wythnos Brecwast Ffermdai 2020. Aeth Mr Davies i’r digwyddiad brecwast yn Crundale i hyrwyddo manteision brecwast iach a chyfarfod ffermwyr lleol i drafod yr heriau sy’n wynebu’r sector.
Meddai Mr Davies, “Mae wastad yn bleser cyfarfod ffermwyr lleol a chlywed o lygad y ffynnon am yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r sector – a gorau oll gwneud hynny dros frecwast iach. Rydw i wedi bod yn falch erioed o gefnogi cynnyrch Sir Benfro ac roedd heddiw’n ffordd wych eto o ddangos yr hyn sydd gan ein ffermwyr lleol i’w gynnig. Cafwyd trafodaethau defnyddiol a diddorol dros ben a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i erfyn ar Lywodraeth Cymru am well cefnogaeth i’n ffermwyr drwy fynd i’r afael â materion fel TB Buchol a’u cynigion Parthau Perygl Nitradau, sy’n bygwth cynaliadwyedd y sector ar hyn o bryd. Hefyd, hoffwn annog pobl Sir Benfro i gefnogi’r Wythnos Brecwast Ffermdy drwy brynu cynnyrch lleol a mwynhau brecwast Sir Benfro iach – mae gennym ni gymaint i’w gynnig yn lleol, felly da chi manteisiwch ar hynny a chefnogi ein ffermwyr.”