Aeth Aelodau Cynulliad cyfagos Angela Burns a Paul Davies draw i Barc Gwyliau Bluestone wythnos diwethaf i weld y pentref a dysgu mwy am ymrwymiad y cwmni i Sir Benfro a’r amgylchedd.
Cafodd y ddau daith dywys gan y perchennog William McNamara a sgwrs gydag aelodau’r staff gan gynnwys Marten Lewis, y Pennaeth Cyfrifoldeb Corfforaethol, a James McNamara, y Pennaeth Hamdden. Daeth yr ymweliad i ben trwy ymweld â’r Serendome, cyfleuster newydd sbon heb ei ail yn y byd.
Wrth drafod yr ymweliad, dywedodd William McNamara, Prif Swyddog Gweithredol Bluestone: “Roedd hi’n braf croesawu ein cynrychiolwyr lleol yn y Cynulliad, Paul Davies ac Angela Burns, i Bluestone ddydd Gwener. Rydym mor falch o’n gweithwyr gwych o bob cwr o Sir Benfro a Sir Gâr, ac ymdrechion holl dîm Bluestone i fod mor gynaliadwy â phosib. Rydym hefyd yn cydweithio â chynifer o bartneriaid, elusennau a busnesau gwych ledled y sir sy’n ein helpu i gyflawni ein gwaith yma.”
“Roedd agor Serendome y llynedd yn garreg filltir allweddol i’r ganolfan wyliau. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu hyd yn oed mwy o westeion ac ymwelwyr eleni – hoffem i Bluestone fod yn borth gwirioneddol i Sir Benfro.”
Meddai Angela: “Dyma fy ymweliad cyntaf â Bluestone ers i Serendome fod ar waith, a dwi’n llawn edmygedd o’r ffordd mae’r safle wedi datblygu.
“Mae’n amlwg fod y safle wedi gwneud argraff ar ymwelwyr hefyd, gyda Bluestone dros 96% yn llawn gydol y flwyddyn sy’n un o’r canrannau uchaf yn y diwydiant hamdden. Mae’r buddsoddiad a wnaed i sicrhau bod materion cynaliadwyedd a’r amgylchedd yn rhan ganolog o’r safle yn brawf pellach o’i werth i’n hardal leol ni.
“Mae William McNamara eisoes wedi creu tua 700 o swyddi cynaliadwy gyda llwybrau gyrfa clir, a dylai ei waith o ddatblygu prentisiaethau yn y diwydiant gwyliau annog rhai sy’n gadael ysgol a busnesau ledled Cymru.
“Mae’r ffordd mae’r safle hwn wedi datblygu o fod yn fferm deuluol i barc gwyliau o safon byd yn ddim llai na rhyfeddod, ac yn glod i weledigaeth a gwaith caled William a’r criw.”
Ychwanegodd Paul “Mae’n wych gweld bod carreg las Sir Benfro, a ddefnyddiwyd i adeiladu safle pererindota hynafol Côr y Cewri filoedd o flynyddoedd yn ôl yn Wiltshire, bellach yn gysylltiedig â safle sy’n denu ymwelwyr o bell ac agos.
“Roeddwn wrth fy modd o glywed am fuddsoddiad y cwmni mewn cynlluniau amgylcheddol, a’r ffaith fod lefelau’r gwastraff plastig sy’n cael ei anfon i safle tirlenwi wedi gostwng yn ddramatig dros y deuddeg mis diwethaf.
“Roeddwn yn arbennig o falch o ddeall fod dros hanner yr ymwelwyr yn dod o’r tu allan i Gymru. Gyda’r cynnydd yn nifer y rhai sy’n cymryd ‘gwyliau gartref’ a chynlluniau Bluestone i dyfu a chefnogi’r economi leol, credaf fod Bluestone ar y trywydd iawn i ennill ei lle fel un o brif gyrchfannau twristiaeth y DU heb sôn am Gymru.”