Mae’r Aelod Cynulliad lleol, Paul Davies, wedi estyn croeso petrusgar i gynlluniau Llywodraeth Gymru i wella tagfeydd yng Nghwm Abergwaun. Mewn llythyr a dderbyniwyd gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, cadarnhawyd fod asiant Cefnffordd De Cymru yn y broses o gwblhau cynllun ar gyfer uwch system rybuddion ar gyfer cerbydau dros hyd penodol. Byddai’r system yn gallu rhoi gwybod i gerbydau mwy nad yw’r ffordd drwy Gwm Abergwaun yn addas i’w cerbyd.
Meddai Mr Davies, “Er fy mod i’n croesawu’r ffaith bod gwaith ar y gweill i fynd i’r afael â’r mater hwn, mae’n hollol hanfodol fod y system yn cael ei chynllunio mewn modd sy’n dderbyniol i’r gymuned leol ond hefyd yn ymarferol. Mae’r bobl leol wedi aros yn hir i weld rhywbeth yn cael ei wneud i wella tagfeydd yn yr ardal ac felly rwy’n mawr obeithio y bydd y cynllun ar ei ffurf derfynol yn cynnig ateb a fydd yn gweithio i bawb. Mae’r sefyllfa bresennol wedi bod yn anodd i rai trigolion, yn enwedig gan fod cerbydau mawr wedi creu difrod i eiddo yn y gorffennol. Felly er fy mod yn croesawu’r camau sydd wedi eu cymryd, rwyf hefyd yn betrusgar a byddaf yn monitro datblygiad y system rybuddion yn ofalus iawn i wneud yn siŵr ei bod yn addas i’r gymuned leol. Er fy mod yn wirioneddol obeithio y bydd y cynllun yn gweithio, os bydd cerbydau mawr yn parhau i deithio drwy Gwm Abergwaun yn anghyfreithlon byddaf yn parhau i lobïo am ateb gwell.