Trefnodd yr Aelod Cynulliad lleol, Paul Davies, gyfarfod yn ddiweddar gyda David Williams, cynrychiolydd o’r Rhwydwaith Cymuned Ffermio. Cynhaliodd Mr Davies y cyfarfod yn ei swyddfa yn y Cynulliad er mwyn trafod amrywiaeth eang o faterion sy’n wynebu’r gymuned ffermio yng Nghymru a dysgu mwy am y cymorth sydd ar gael gan y Rhwydwaith Cymuned Ffermio ar gyfer pobl sy’n wynebu anawsterau ym mhob agwedd ar fywyd ffermio, gan gynnwys cymorth busnes, materion teuluol a phroblemau iechyd meddwl.
Meddai Mr Davies, “Roedd yn bleser cyfarfod â David a dysgu am y cymorth ymarferol a phersonol sy’n cael ei gynnig i ffermwyr gan y Rhwydwaith Cymuned Ffermio. Mae’n bwysig iawn bod rhwydweithiau cymorth ar gael i’r gymuned amaethyddol ac mae’n dda clywed bod y Rhwydwaith Cymuned Ffermio yn cynnig cyngor amrywiol ac yn darparu cymorth gan bobl sy’n deall ffermio a bywyd gwledig. Mae’r gwaith hwn yn bwysig iawn i lawer o bobl ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Rhwydwaith Cymuned Ffermio yn y dyfodol a chefnogi gwaith pwysig y rhwydwaith ledled y wlad.”