Yn ddiweddar, mynychodd Paul Davies yr Aelod Cynulliad lleol dderbyniad i godi ymwybyddiaeth o glefydau anghyffredin a thynnu sylw at faterion sy’n effeithio ar gleifion a theuluoedd ledled Cymru. Cynhelir y14eg Diwrnod Clefydau Anghyffredin rhyngwladol ar 28 Chwefror 2020 ac er mwyn nodi’r diwrnod a chodi proffil clefydau anghyffredin, cynhaliodd Rare Disease UK ac Angela Burns yr Aelod Cynulliad cyfagos dderbyniad i ddysgu mwy am sut y gellir rhoi gwell cefnogaeth i gleifion a’u teuluoedd.
Yn siarad yn y digwyddiad, dywedodd Mr Davies: “Roedd derbyniad y Diwrnod Clefydau Anghyffredin yn ein hatgoffa i gyd bod y rhai sy’n byw gyda chyflwr anghyffredin yn wynebu heriau amrywiol a’i bod yn hollbwysig ein bod yn cydweithio i sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. O bryd i’w gilydd, gellir camddeall symptomau clefyd anghyffredin a gall hynny arwain at gleifion ddim yn derbyn y gefnogaeth briodol ar eu cyfer. Yn anffodus, mae clefydau anghyffredin yn para oes a gallant effeithio ar symptomau lluosog yn y corff a dyna pam mae angen i ni weithio’n galetach nag erioed a chael gwell dealltwriaeth o sut gallwn gefnogi’r rhai sy’n byw gyda chlefyd anghyffredin yng Nghymru. Roedd y derbyniad hwn yn gyfle da i ddysgu mwy am rai o’r materion sy’n wynebu cleifion ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Rare Disease UK ac eraill i helpu i ddarparu gwell cefnogaeth i gleifion yn y dyfodol.”