Mae galwadau i wneud yr A40 yn ffordd ddeuol, adeiladu pont droed a dod o hyd i ateb call i’r problemau yn y Cwm yn Abergwaun, a gwella gwasanaethau bysiau ledled Sir Benfro i gyd wedi’u codi yn Siambr y Cynulliad gan Paul Davies, yr Aelod Cynulliad lleol. Cyfrannodd Mr Davies at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar seilwaith ffyrdd Cymru, gan ddadlau bod Sir Benfro wedi’i hesgeuluso ac annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i fynd i’r afael ag anghenion seilwaith Sir Benfro.
Meddai Mr Davies: “Mae Sir Benfro wedi bod ar waelod rhestr flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ers tro byd ac mae’n rhaid i hynny newid. Mae’n rhaid gwerthfawrogi cyfraniad sylweddol y sir at yr economi genedlaethol, ac er mwyn i Sir Benfro wireddu ei llawn botensial mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i fynd i’r afael â’i hanghenion seilwaith. Er bod Llywodraeth Cymru yn dal ati i gyflwyno cynlluniau trafnidiaeth mewn rhannau eraill o Gymru, mae’r rhai yn y Gorllewin yn cael eu gwthio i lawr y rhestr. Ni ddylai Sir Benfro gael ei thrin yn waeth na phawb arall yng Nghymru ac mae’n hen bryd iddi gael y buddsoddiad mewn seilwaith sydd ei hangen yn ddirfawr arni.