Yn ddiweddar, cyfarfu Paul Davies Aelod Cynulliad Preseli Sir Benfro â chynrychiolwyr o Cancer Research UK a rhoi cynnig ar eu Jenga Strategaeth Canser! Clywodd Mr Davies sut mae tua 2,700 o achosion o ganser y flwyddyn yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac i sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer cleifion, mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â ffactorau risg y gellir eu hatal a phrinder gweithwyr yn y gweithlu canser.
Meddai Mr Davies: “Roedd hi’n bleser siarad â Cancer Research UK am sut y gallwn wella gwasanaethau canser a chanlyniadau cleifion ar gyfer y rhai sy’n cael eu heffeithio gan ganser yn Sir Benfro. Fe wnes i fwynhau chwarae’r Jenga Strategaeth Canser a dysgu am y gwahanol ‘estyll’ y dylai strategaeth canser uchelgeisiol i Gymru eu cael. Diolch i ymchwil a gwelliannau o ran diagnosio a thriniaeth, mae’r cyfraddau goroesi yn y DU wedi dyblu ers yr 1970au felly, heddiw, mae 2 o bob 4 yn goresgyn eu canser a gobeithio y bydd y ffigur hwnnw yn parhau i godi. Yn amlwg, byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth canser – ac un sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i gleifion a’u teuluoedd yng Nghymru.”