Mynychodd Paul Davies yr Aelod Cynulliad lleol ddigwyddiad yn ddiweddar i nodi Diwrnod Aren y Byd. Roedd y digwyddiad yn arddangos gwaith Cronfa Paul Popham, sefydliad sy’n cefnogi cleifion o bob oed sy’n byw gyda chlefydau arennol ledled Cymru.
Meddai Mr Davies, “Mae Diwrnod Aren y Byd (dydd Iau 12 Mawrth) yn atgoffa rhywun o rôl hollbwysig ein harennau wrth gadw’n cyrff yn iach. Mae’n rhyfeddol bod ein harennau yn glanhau ein gwaed hyd at bedair gwaith y diwrnod, yn cael gwared ar docsinau a chynhyrchion gwastraff ynghyd ag actifadu Fitamin D i gadw ein hesgyrn a’n cyhyrau mewn cyflwr da.”
Ychwanegodd: “Roeddwn i’n falch iawn o drafod pwysigrwydd iechyd da arennau gyda chynrychiolwyr Cronfa Paul Popham a dysgu mwy am y camau y gallwn eu cymryd i atal cyflwr ar yr arennau rhag datblygu. Mae Cronfa Paul Popham yn gwneud gwaith rhagorol yn cefnogi cleifion gyda chyflyrau arennol ac roedd hi’n braf iawn clywed mwy am eu prosiectau presennol.”