Mae’r Aelod Cynulliad lleol Paul Davies wedi galw unwaith eto ar Lywodraeth Cymru i atal pobl rhag teithio i leoliadau gwyliau yng Nghymru, cyn penwythnos gŵyl banc y Pasg. Gofynnodd Mr Davies i’r Prif Weinidog beth arall fydd yn cael ei wneud i wahardd teithio i ail gartrefi, yn dilyn cwynion gan etholwyr ynghylch nifer y perchnogion ail gartrefi sy’n teithio i Sir Benfro, er gwaethaf canllawiau clir Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i beidio â gwneud hynny.
Meddai Mr Davies, “Wrth i benwythnos y Pasg agosáu, teimlais y byddai’n gyfle da i holi’r Prif Weinidog eto am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal pobl rhag teithio i gartrefi gwyliau yng Nghymru. Yn anffodus rwy’n dal i dderbyn gohebiaeth gan bobl ledled y Sir yn dweud eu bod yn ymwybodol o berchnogion ail gartrefi yn cyrraedd Sir Benfro. Mae’n rhaid i mi bwysleisio nad yw teithio i gartref gwyliau yn deithio hanfodol a’i bod yn gwbl anghyfrifol anwybyddu cyngor y Llywodraeth ar adeg pam rydym ni wir angen cyfyngu ar ledaeniad y coronafeirws ledled y DU. Felly, byddaf yn dal ati i godi’r mater a galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau pellach os oes angen, tan i’r bobl hyn roi’r gorau i’r ymddygiad anghyfrifol.”
Ychwanegodd, “Am ddiweddariadau wythnosol ar y gwaith rwy’n ei wneud fel eich Aelod Cynulliad lleol ac am y canllawiau diweddaraf, gallwch danysgrifio i fy nghylchlythyr wythnosol ar hafan fy ngwefan
- https://www.paul-davies.org.uk/