Mae’r Aelod Cynulliad Lleol Paul Davies wedi galw am gymorth pellach i’r rhai sy’n cael trafferthion gyda darpariaeth band eang gwael. Yn ystod ei drafodaeth gyda’r Prif Weinidog, gofynnodd Mr Davies i Lywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau bod gan bob cymuned fynediad digonol at adnoddau ar-lein drwy gyfnod y pandemig.
Meddai Mr Davies, “Wrth i bobl Sir Benfro barhau i fyw a gweithio gartref, mae’n hollbwysig bod gan bob aelwyd fynediad at wasanaeth band eang addas. Mae’r cyfyngiadau symud wedi pwysleisio pwysigrwydd cysylltiad rhyngrwyd da i sicrhau y gall disgyblion gael mynediad at yr adnoddau addysgol diweddaraf, bod gan deuluoedd fynediad at gymwysiadau ariannol a bod gan y rhai sy’n ymneilltuo er mwyn gwarchod eu hunain fynediad at slotiau dosbarthu siopa i’r cartref. Dydyn ni erioed wedi dibynnu ar y rhyngrwyd cymaint ag yr ydym yn ei wneud nawr ac mae’n hanfodol bod Llywodraethau ar bob lefel yn cydweithio i sicrhau bod gan bawb fynediad at y wybodaeth ddiweddaraf a chanllawiau ar-lein ac all-lein.
Ychwanegodd, “Am ddiweddariadau wythnosol ar y gwaith rwy’n ei wneud fel eich Aelod Cynulliad lleol ac am y canllawiau diweddaraf, gallwch danysgrifio i fy nghylchlythyr wythnosol ar hafan fy ngwefan - https://www.paul-davies.org.uk/