Mae’r Aelod Cynulliad lleol Paul Davies yn gofyn i bobl ledled Sir Benfro i fod yn wyliadwrus rhag dod yn ddioddefwyr sgamiau yn ystod cyfnod y pandemig coronafeirws. Mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol wedi rhybuddio y dylai pobl a busnesau fod yn ofalus o sgamiwyr sy’n ceisio manteisio ar y pandemig coronafeirws, yn dilyn adroddiadau bod sgamiwyr wedi bod yn targedu pobl fregus, gan gynnwys y rhai sy’n ymneilltuo yn eu cartrefi.
Meddai Mr Davies, “Er bod llawer iawn o haelioni ac ewyllys da wedi ei ddangos ledled y wlad, mae twyllwyr yn dal o gwmpas, yn targedu pobl fregus ac mewn rhai achosion yn rhoi’r argraff eu bod yn dod o asiantaethau swyddogol. Yn anffodus, gall llawer o sgamiau ymddangos yn ddiffuant ac felly os oes gennych chi amheuon o gwbl, anwybyddwch y cynnig, dilëwch yr e-bost neu rhowch y ffôn i lawr os mai galwad ffôn yw hi. Mae mor bwysig bod pawb yn gofalu am ei gilydd a rhoi gwybod am unrhyw arwyddion o weithgarwch drwgdybus i Heddlu Dyfed Powys.”