Mae’r Aelod Cynulliad Paul Davies wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd holl breswylwyr a staff cartrefi gofal sy’n dangos symptomau Covid-19 yn cael eu profi.
Meddai Mr Davies, “O’r ffigurau diweddaraf, credir bod oddeutu un o bob tri cartref gofal yng Nghymru wedi’u heffeithio gan y coronafeirws ac felly mae’n amlwg bod angen gwneud llawer mwy i brofi preswylwyr a staff yn y sector cartrefi gofal. Yn amlwg, rwy’n croesawu unrhyw adnoddau ychwanegol sydd ar gael, ond mae’n anochel bod cyllid yn cael ei dderbyn gan ddarparwyr gofal cyn gynted â phosibl. Mae’r adborth rwyf wedi’i gael gan y sector yn dweud fod angen cymorth - a bod ei angen nawr - felly rwy’n hapus i gefnogi galwadau i Lywodraeth Cymru wneud mwy i hwyluso’r broses o brofi preswylwyr a staff yn y sector gofal cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod y rhai sydd wedi’u heffeithio yn gallu cael mynediad at y cymorth a’r driniaeth sydd eu hangen arnynt ar unwaith.”