Mae’r Aelod Cynulliad lleol Paul Davies wedi galw am ragor o gymorth i gwmnïau twristiaeth hunanddarpar bach. Daw’r alwad yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod y meini prawf cymhwyster ar gyfer derbyn cyllid grant wedi newid fel na all gweithredwyr wneud cais oni bai bod yr eiddo wedi’i osod am o leiaf 140 diwrnod yn ystod 2019-20 ac mai’r busnes yw prif ffynhonnell incwm y perchennog.
Meddai Mr Davies, “Mae’n hollbwysig bod cymorth ar gael ar gyfer gweithredwyr bythynnod gwyliau a chyfleusterau twristiaeth hunanddarpar eraill ac mae’n destun pryder bod Llywodraeth Cymru wedi newid y meini prawf fel bod llai o fusnesau bellach yn gymwys i dderbyn cymorth. Mae sector twristiaeth Sir Benfro yn strategol bwysig i’r economi leol ac yn wir, yr economi genedlaethol ac felly mae’n siomedig iawn gweld y sector yn cael ei eithrio rhag cael mynediad at adnoddau hollbwysig gan y Llywodraeth. Felly, rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt ailystyried eu penderfyniad ac rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Gyngor Sir Penfro i ddefnyddio unrhyw ddisgresiwn sydd ganddo i sicrhau bod cymorth ar gael yn lleol.”