Wrth i fwy a mwy o bobl ledled Sir Benfro barhau i weithio gartref ac addasu i batrwm newydd, efallai fod llawer o bobl yn peryglu eu hunain yn ddiangen oherwydd arferion anniogel yn y cartref neu oherwydd nad yw eu cyfarpar trydanol wedi’u gosod yn ddiogel. Dyna yw neges Paul Davies, yr Aelod Cynulliad lleol. Mae Mr Davies wedi ymuno â’r elusen flaenllaw ar gyfer defnyddwyr, Electrical Safety First, sydd wedi cynnal gwaith ymchwil ledled Cymru i’r peryglon posibl sy’n wynebu pobl sy’n gweithio o bell ar hyd a lled y wlad heb iddyn nhw sylweddoli hynny.
Mae Electrical Safety First yn argymell bod y rhai sy’n gweithio gartref yn manteisio ar Gyfrifiannell Gorlwytho Socedi yr Elusen er mwyn gwirio nad ydyn nhw'n defnyddio gormod o declynnau ar unwaith, a rhoi sylw arbennig i’w diogelwch trydanol yn ystod eu cyfnod yn gweithio o bell.
Meddai Mr Davies “Gwn fod llawer o bobl ar hyd a lled Sir Benfro yn gweithio gartref, yn hunanynysu neu’n cadw pellter cymdeithasol ar hyn o bryd ond mae’n rhaid i ni gofio y gall hyn gynyddu’r siawns o ddefnyddio trydan yn anniogel a dyna pam rwyf wedi ymuno â’r elusen, Electrical Safety First, er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r camau hawdd y gallwch chi eu cymryd i leihau’r risg i chi a’ch anwyliaid yn sylweddol.
“Mae’n debyg nad yw bron i draean o’r bobl sy’n gweithio gartref yn ymwybodol o’r risgiau o orlwytho socedi plygiau na sut i wirio a ydych chi’n gwneud hynny. Felly, mae’n eithriadol o bwysig gwirio’r teclynnau trydanol a chofiwch fod yna gyfyngiad ar y pŵer y gall ceblau estyn eu cymryd - os ydych chi’n rhoi gormod o declynnau arno mae’n bosibl y gall y cebl chwythu.”
Yn ôl Robert Jervis-Gibbons, Rheolwr Materion Cyhoeddus gyda Electrical Safety First: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Paul am ymuno â ni i godi ymwybyddiaeth o ddefnyddio trydan yn ddiogel wrth weithio gartref. Gyda thri chwarter a mwy o’r rhai sy’n gweithio gartref yng Nghymru ar hyn o bryd yn gwneud hynny am y tro cyntaf oherwydd t COVID-19, nid yw’n syndod nad yw pawb wedi cael cyfle i sicrhau nad oes peryglon trydanol yn eu mannau gwaith.
“Treuliwch ychydig funudau’n sicrhau nad ydych yn cysylltu ceblau estyn â’i gilydd neu’n gorlwytho socedi plygiau a’ch bod yn gwefru eich dyfeisiau ar arwynebau caled, anfflamadwy. Dylai pawb dalu sylw penodol i ddiogelwch trydanol yn ystod y cyfnod o weithio o bell. Am ragor o fanylion ac adnoddau defnyddiol, ewch i www.electricalsafetyfirst.org.uk ”