Mae Paul Davies, Aelod Cynulliad Preseli Sir Benfro, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd bod gwybodaeth a gyhoeddir mewn perthynas â nifer y marwolaethau Covid-19 yn ardal y Bwrdd Iechyd lleol yn gywir ac yn cael ei ddiweddaru, yn sgil y newyddion nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cofnodi pob marwolaeth yn yr ardal.
Meddai Mr Davies: “Mae’n hollbwysig fod y cyhoedd yn hyderus bod unrhyw ffigurau sydd ar gael i’r cyhoedd yn gywir ac wedi’u diweddaru ac mae’n peri pryder mawr iawn nad yw hyn wedi digwydd hyd yma. Er ein bod yn gwybod bod y protocol hwn wedi’i rannu ymysg clinigwyr, nid oedd hyn yn digwydd yn gyson ymhob rhan o ardal y Bwrdd Iechyd ac felly mae’n rhaid i ni ddysgu gwersi a sicrhau ansawdd yn lleol. Mae llawer o bobl ledled Sir Benfro yn amlwg yn rhwystredig ac yn flin bod hyn wedi digwydd ac felly mae’n hollbwysig bod archwiliadau yn cael eu cynnal i sicrhau nad yw’n digwydd eto. Byddaf yn amlwg yn dal ati i fonitro’r mater hwn a gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod y data sy’n cael ei gofnodi yn gywir er mwyn i bobl yn Sir Benfro allu bod yn hyderus eu bod yn cael darlun cywir o effaith Covid 19 ar ein cymunedau.”