Mae’r Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies, wedi croesawu’r newyddion y bydd deiseb a drefnwyd gan ddisgyblion ysgol leol o Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Sant Aidan yn cael ei thrafod gan Bwyllgor Deisebau’r Senedd ar 9 Mehefin. Mae’r Ddeiseb yn galw ar Senedd Cymru i newid y ffordd y defnyddir poteli llaeth plastig mewn ysgolion, drwy wahardd poteli llaeth defnydd untro ac ystyried opsiynau y gellir eu hailgylchu.
Meddai Mr Davies, “Rydw i’n falch iawn o weld bod gwaith caled Dosbarth 4 yn ysgol Sant Aidan yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Deisebau. Mae’r disgyblion wedi gweithio’n galed dros ben i godi ymwybyddiaeth o’r mater pwysig hwn ac mae’r ddeiseb wedi denu dros 300 o lofnodion. Mae’r ddeiseb yn galw am wahardd poteli plastig defnydd untro ac rwy’n gobeithio y bydd y pwyllgor yn ymateb yn gadarnhaol i alwad y plant. Gall pawb wneud mwy i helpu i ddiogelu ein hamgylchedd a lleihau gwastraff ac mae hon yn enghraifft dda o gamau cadarnhaol y gallwn ni eu cymryd. Rwy’n edrych ymlaen at glywed trafodaeth y Pwyllgor a sut bydd y cynigion yn cael eu hystyried ymhellach gan Lywodraeth Cymru.
Nodiadau i Olygyddion.
PIC CAP – Paul Davies gyda Mrs Wendy MacGarvie a disgyblion Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Sant Aidan yn ystod ei ymweliad â’r ysgol yn gynharach eleni.