Yn ddiweddar, cafodd Paul Davies, Aelod o’r Senedd dros Breseli Sir Benfro, y pleser o gyfarfod cynrychiolwyr o’r sector gwirfoddol i glywed mwy am effaith Covid-19 ar y trydydd sector ledled y wlad ac i ddysgu mwy am rywfaint o’r cynnydd sy’n cael ei wneud wrth sicrhau bod grwpiau lleol a sefydliadau yn derbyn y cyllid a’r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw i gefnogi pobl ledled Cymru. Cyfarfu Mr Davies â Ruth Marks o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Sue Leonard o Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro ar y platfform ar-lein Zoom.
Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Davies, “Roedd hi’n bleser siarad gyda Ruth a Sue am ffyrdd y gallwn adeiladu ar rywfaint o’r cynnydd sy’n cael ei wneud wrth gefnogi’r trydydd sector gydol y pandemig Covid-19 ac rwy’n falch o glywed bod gwaith da iawn wedi’i wneud yn lleol wrth weinyddu’r cyllid grant. Wrth symud ymlaen, mae’n bwysig ein bod yn adeiladu ar y gwaith da hwnnw ar gyfer y dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at ddal ati i weithio gyda’r trydydd sector i helpu i ddatblygu twf economaidd dan arweiniad y gymuned a helpu i hwyluso mentrau lleol i sicrhau newid pwysig mewn ymddygiad a diwylliant.”
Meddai Sue a Ruth: “Rydym yn gwerthfawrogi’r cyfle i roi diweddariadau i Paul ar faterion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy’n ymwneud â rôl y sector gwirfoddol wrth ymateb i Covid a pha mor bwysig y bydd partneriaethau seiliedig ar le wrth i ni ddod dros y pandemig ac yn y dyfodol.”