Rôlau a chyfrifoldebau Aelod Cynulliad
Beth yw Aelod Cynulliad?
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnwys 60 o Aelodau Cynulliad. Cynhelir etholiadau ym mis Mai bob pum mlynedd.
Caiff yr Aelodau Cynulliad eu hethol i gynrychioli ardal benodol o Gymru fel aelodau o bleidiau gwleidyddol (er enghraifft: Y Ceidwadwyr, Llafur, Plaid Cymru a Democratiair Rhyddfrydol Cymru) neu fel aelodau annibynnol.
Beth y mae Aelod Cynulliad yn ei wneud?
Mae Aelodau Cynulliad yn gwneud gwaith democrataidd y Cynulliad; maent yn cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, yn deddfu ar gyfer Cymru ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Caiff Llywodraeth Cymru ei ffurfio ar ôl etholiad, ac mae’n cynnwys hyd at 12 o Weinidogion a Phrif Weinidog Cymru. Caiff y Llywodraeth ei ffurfio, fel arfer, gan y blaid wleidyddol fwyaf neu bartneriaeth o bleidiau.
Mae Aelodau’r Cynulliad yn cwrdd yn wythnosol yn ystod tymor y Cynulliad i drafod materion sydd o bwys i Gymru a’i phobl.
Maent yn cwrdd yn y Cyfarfod Llawn, lle caiff yr Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau i Weinidogion Llywodraeth Cymru, trafod materion fel polisïau’r Llywodraeth ac adroddiadau pwyllgorau ac archwilio deddfau Cymru. Maent hefyd yn cwrdd mewn pwyllgorau sydd wedi’u sefydlu gan y Cynulliad at ddibenion penodol. Mae’r rhain yn cynnwys archwilio deddfau, craffu ar bolisi, cynnal busnes y Cynulliad ac ymgymryd â thasgau eraill. Gall gwrthbleidiau gynnal trafodaethau ar unrhyw bwnc y mynnent sy’n cael eu dyrannu yn gymharol i maint y blaid yn y Cynulliad. fel arfer ar ddydd Mercher.
Drwy’r pwyllgorau, gall y Cynulliad wneud mwy o waith yn gyflymach a gall yr Aelodau arbenigo mewn meysydd penodol. Fel arfer, mae aelodaeth y pwyllgorau’n cyfateb yn fras i gynrychiolaeth gyffredinol y pleidiau yn y Cynulliad.
Y Cynulliad sy’n penderfynu pa Aelodau ddylai fod ar y pwyllgorau. Fel arfer, gall Aelodau eraill y Cynulliad fynd i gyfarfodydd pwyllgor, ond ni allant bleidleisio. Caiff pwyllgorau benderfynu cwrdd yn breifat pan fydd angen, ond mae’r rhan fwyaf o bwyllgorau’n cwrdd yn gyhoeddus. Gall unrhyw un wylio’r cyfarfodydd hyn o’r orielau cyhoeddus yn y Senedd, neu ar wefan y Cynulliad, sef Senedd.tv.
Craffu ar waith Llywodraeth Cymru
Un o swyddogaethau pwysicaf Aelodau’r Cynulliad yw archwilio’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Mae hyn yn cynnwys trafod polisïau, gofyn cwestiynau manwl am bolisïau a gweithredoedd y Llywodraeth, cynnal ymchwiliadau i faterion penodol neu’r gwaith a gaiff ei wneud gan gyrff cyhoeddus a dwyn Gweinidogion i gyfrif yn y Cynulliad. Caiff y rôl hon o fonitro ei chynnal mewn dwy brif ffordd – yn y Cyfarfod Llawn, lle mae’r holl Aelodau’n cwrdd, a thrwy amrywiaeth o bwyllgorau.